Rhestr o Anghenion Ymchwil Technoleg Adweithyddion Dŵr Berw
Pan sefydlwyd y Ganolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR, cynhaliwyd gweithdy ym Mangor i drafod anghenion ymchwil technoleg adweithyddion dŵr berw. Mae’r dudalen hon yn bodoli er mwyn crynhoi canlyniadau’r cyfarfod hwn a chaiff ei diweddaru i adlewyrchu blaenoriaethau ymchwil adweithyddion dŵr berw wrth iddynt ddatblygu.
Yn ystod y Gynhadledd Anghenion Ymchwil Adweithyddion Dŵr Berw a gynhaliwyd ym mis Hydref 2016, rhoddodd beirianwyr a gwyddonwyr o Hitachi-GE drosolwg ar y blaenoriaethau ymchwil yn eu barn nhw, yn seiliedig ar eu profiad gydag adweithyddion dŵr berw yn Japan. Mae eu cyflwyniadau ar gael yma:
- Overview of Research Needs of the BWR (K. Moriya)
- Research Needs for Core and Fuel Design (T. Hino)
- Research Needs for Higher Performance Core and Fuel (H. Soneda)
- Research Needs for Thermal Hydraulics (K. Nishida)
Sesiynau Grŵp
Cynhaliwyd sesiynau grŵp yn ystod ail ddiwrnod y gweithdy ac yn ystod y sesiynau hynny trafodwyd sut gallai ymchwil adweithyddion dŵr berw ategu rhaglenni ymchwil niwclear presennol y DU. Buont hefyd yn ystyried meysydd ymchwil a fyddai o fudd i’r DU a Japan, ill dwy. Mae canlyniadau’r sesiynau hyn wedi eu crynhoi erbyn hyn.