Cyfleoedd Cyllido
Astudiaethau Dichonoldeb
Mae’r Ganolfan BWR yn gallu cynnig cyllid i academyddion trwy nifer o astudiaethau dichonoldeb ar raddfa fechan.
Nod astudiaethau dichonoldeb y Ganolfan BWR yw annog ymchwil ar agweddau newydd ar dechnoleg adweithyddion dŵr berw.
Rydym yn gobeithio annog projectau uchelgeisiol trwy gyllido projectau dichonoldeb. Dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddefnyddio’r projectau i wneud astudiaethau profi cysyniad neu i ddatblygu prototeipiau syml ac arddangoswyr technoleg.
Ein gobaith yw y gellir defnyddio canlyniadau’r projectau i wella’r posibilrwydd o gael cyllid dilynol ac felly mynd â’r projectau ymlaen i bethau mwy.
Pwyntiau allweddol:
- Dylai’r gwaith fod ar agweddau newydd ar dechnoleg adweithyddion dŵr berw.
- Dylai’r projectau bara tua 3 mis.
- Mae cyfanswm o £5,000 o gyllid ar gael fesul project.
- Anelir y cyllid at annog ymchwil i adweithyddion dŵr berw mewn sefydliadau yn y DU.
Er mwyn nodi meysydd ymchwil allweddol adweithyddion dŵr berw i’ch helpu i baratoi eich cais, gweler ein rhestr o anghenion ymchwil adweithyddion dŵr berw.
Ymgeisio am gyllid:
Os ydych yn credu bod gennych broject ymchwil addas, llenwch y ffurflen gais a’i hanfon yn ôl at debbie.l.jones@bangor.ac.uk.