Cylch Gorchwyl Trefniadaethol y Grŵp Llywio
1. Diben:
Galluogi i gymunedau academaidd a diwydiannol Cymru, a’r Deyrnas Unedig ehangach, ddyfnhau ac ehangu eu dealltwriaeth o dechnoleg ADB, a chymryd rhan mewn ymchwil a datblygu yn ymwneud ag ADB presennol a rhai a ddatblygir yn y dyfodol.
2. Amcanion:
- Creu a datblygu capasiti ymchwil niwclear yng Nghymru er mwyn cael y budd mwyaf o dechnolegau ADB presennol a chyfrannu at dechnolegau Gen IV+ y dyfodol a manteisio arnynt.
- Hybu addysg gyflawn a hygyrch i’r cyhoedd mewn technolegau ADB cyfredol ac yn y dyfodol, gan adael hyfforddiant technegol penodol i gyrff masnachol neu ymchwil mwy priodol.
- Hwyluso trosglwyddo gwybodaeth am dechnoleg ADB o Japan i Gymru ac i’r DU yn ehangach.
- Datblygu cronfa ddyfnach ac ehangach o arbenigedd annibynnol ar dechnoleg ADB ar draws Cymru a’r DU yn ehangach.
- Cryfhau cydweithio rhwng Cymru a’r DU yn ehangach a Japan mewn perthynas â thechnoleg ADB.
3. Fframwaith:
- Gweithredir y rhwydwaith ar y cyd gan Imperial College Centre for Nuclear Engineering a Phrifysgol Bangor.
- Bydd y rhwydwaith yn ymwneud â’r holl bartïon sydd â diddordeb yn hyn, yn cynnwys diwydiant yn y DU a Japan, Llywodraethau (DU, Cymru a Japan), yr EPSRC, prifysgolion yn y DU a Japan a sefydliadau eraill, megis NNL, sy’n gwneud gwaith ymchwil perthnasol. Un o egwyddorion allweddol Rhwydwaith Ymchwil ADB yw y bydd yn gynhwysol.
- I sicrhau ymddiriedaeth budd-ddeiliaid, mae’r rhaid i’r Rhwydwaith ADB aros yn niwtral, yn annibynnol a chlir yn ei weithrediadau.
4. Gweithgareddau:
- Nodi gofynion ymchwil ar gyfer technoleg gyfredol a chenhedlaeth nesaf ADB trwy drafod â diwydiant a darparu mecanwaith i gyflwyno argymhellion ymchwil NIRAB ym maes ymchwil ADB.
- Hwyluso datblygu a chryfhau cynigion ymchwil o safon uchel gan brifysgolion a grwpiau ymchwil eraill trwy weithdai a chynadleddau.
- Meithrin cysylltiadau gyda Chanolfannau Hyfforddiant Doethurol i gefnogi ymchwil a hyfforddiant mewn technoleg ADB.
- Darparu cyngor arbenigol ar ymchwil a thechnoleg ADB i sefydliadau llywodraethol a chyrff cyhoeddus eraill.
- Darparu llais awdurdodol, ond annibynnol, ar dechnolegau ADB i ysgolion, y cyhoedd yn gyffredinol ac eraill gyda’r gallu i ddarparu seminarau, cyrsiau o ddarlithoedd a gwybodaeth awdurdodol.
- Cefnogi a hwyluso cyfleoedd i brifysgolion a sefydliadau ddarparu interniaethau i staff a myfyrwyr (e.e. CDT) rhwng Japan a’r DU.
5. Trefniadaeth:
5.1 Grŵp Llywio:
Bydd y Grŵp Llywio yn goruchwylio sefydlu Rhwydwaith Ymchwil ADB a monitro ei weithredu, ei reolaeth a’i effeithiolrwydd. Daw aelodau’r Grŵp Llywio o’r partneriaid sefydlol (Imperial College a Phrifysgol Bangor); partneriaid technegol ADB, Hitachi a Horizon, a phartneriaid cadwyn gyflenwi megis Amec-FW, Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y Deyrnas Unedig; a phartïon eraill sydd â diddordeb; yn arbennig yr EPSRC a’r Labordy Niwclear Cenedlaethol. Cadeirir y Grŵp Llywio gan ffigwr uwch o academia neu ddiwydiant niwclear.
Bydd cyfarfod cyntaf y Grŵp Llywio yn un wyneb yn wyneb. Wedi hynny, cynhelir cyfarfodydd drwy delegynhadledd neu wyneb yn wyneb fel bo’n briodol.
5.2 Y Fforwm Ymchwil
Bydd y Fforwm Ymchwil yn gwahodd, asesu a helpu i ddatblygu cynigion ymchwil i’w hanfon at gyrff cyllido. Dewisir Cadeirydd y Fforwm Ymchwil gan y Grŵp Llywio. Bydd yr aelodau’n arbenigwyr o ddiwydiant, academia a chyrff llywodraeth ac fe’u dewisir hwythau hefyd gan y Grŵp Llywio.
Cynhelir cyfarfodydd y fforwm ymchwil ar ôl e-bostio’r cynigion, derbyn sylwadau drwy e-bost, ac yna cynnal telegynhadledd.
6. Ysgrifenyddiaeth a Chyfarwyddwr:
Darperir yr Ysgrifenyddiaeth gan y partneriaid sefydlol. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol am baratoi a dosbarthu papurau i gyfarfodydd y Grŵp Llywio a’r Pwyllgor Ymchwil, cadw cofnodion o’r cyfarfodydd a gohebu â’r ymgeiswyr.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn gyfrifol hefyd am drefnu cynadleddau a deunyddiau cyhoeddusrwydd, yn unol â chyfarwyddyd Cyfarwyddwr y rhwydwaith, mewn ymgynghoriad â chadeiryddion y Grŵp Llywio a’r Fforwm Ymchwil
Bydd y Cyfarwyddwr yn rhywun gyda phrofiad eang o faes cyllido ymchwil yn y DU, a bydd yn gyfarwydd â’r diwydiant niwclear.