Gwybodaeth
Gwybodaeth
Sefydlwyd y Ganolfan a’r Rhwydwaith Ymchwil i Adweithyddion Dŵr Berw i gynorthwyo cymunedau ymchwil a diwydiannol y DU i ddatblygu technoleg adweithyddion dŵr berw, ac i gymryd rhan mewn creu’r genhedlaeth nesaf o’r adweithyddion hyn.
Partneriaid
Mae’r Ganolfan BWR yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Bangor a’r Coleg Imperial gyda chefnogaeth gan Hitachi-GE Nuclear a Llywodraeth Cymru.
Strwythur
Mae gan y rhwydwaith ymchwil nifer o gydrannau allweddol. Sef:
- Grŵp Llywio: sy’n gyfrifol am oruchwylio llywodraethu Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR yn dda yn unol â’r Cylch Gorchwyl
- Fforwm ymchwil: yn gyfrifol am reoli Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR o ddydd i ddydd.
- Swyddfa’r Project: lle trafodir blaenoriaethau ymchwil a phrojectau posibl BWR.