Adroddiad Ymweliad: Cynhadledd Peirianneg Cymru, Caerdydd
Cynhaliwyd Cynhadledd Peirianneg Cymru gan Rwydwaith Ymchwil Peirianneg Cymru yng Nghaerdydd ar 18 Hydref. Roedd y gweithdy’n cynnwys nifer o weithdai a sgyrsiau yn y gynhadledd lawn, gan gynnwys sgwrs gan Peter Jolley, Prif Beiriannydd Aston Martin a Ton Fijen, Cyfarwyddwr Technegol Tidal Lagoon Power. Cafwyd sgyrsiau byr hefyd am y ffordd orau i gysylltu busnesau ag ymchwil academaidd a chyfleoedd cyllido sydd i ddod a allai fod yn ddefnyddiol i’r cynrychiolwyr busnes ac academaidd yn y gynhadledd.