Cysylltwch â ni
Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch y Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR neu gynnwys y wefan, cysylltwch â ni.
Name | Role | Telephone | |
Mike Bluck | Prif Ymchwilydd (Imperial College) | m.bluck@imperial.ac.uk | 020 7594 7055 |
Sian Hope | Prif Ymchwilydd (Prifysgol Bangor) | s.hope@bangor.ac.uk | 01248 382 695 |
Debbie Jones | Rheolwr Project (Bangor University) | debbie.l.jones@bangor.ac.uk | 01248 382 474 |
Emma Warriss | Rheolwr Rhwydwaith (Imperial College) | e.warriss@imperial.ac.uk | 020 7594 9916 |
Norman Waterman | Cyfarwyddwr Gweithredol (Imperial College) | n.waterman@imperial.ac.uk | 07928 710 572 |
Bywgraffiadau
Dr. Norman Waterman
Cyfarwyddwr Gweithredol
Norman Waterman yw’r Cyfarwyddwr Rhwydwaith Gweithredol ar gyfer Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR. Y mae wedi’i leoli yn yr Imperial College, Llundain, lle mae’n Ymgynghorwr ar Strategaeth Ddiwydiannol gyda’r Ganolfan Peirianneg Niwclear. Dechreuodd ar ei yrfa yn y diwydiant pŵer niwclear yn 1966 fel swyddog ymchwil yn Berkeley Nuclear Laboratories CEGB. Ar ôl symud i Ddenmarc yn 1970 i weithio ar gyfer Danfoss ar broblemau deunyddiau’n gysylltiedig â gweithgynhyrchu cynnyrch mewn symiau sylweddol, dychwelodd i’r DU i weithio ar gyfer sefydliad ymchwil gyswllt. Cynorthwyodd Norman i sefydlu Quo-Tech yn 1983, cwmni ymgynghorol, yn helpu cwmnïau diwydiannol gydag arloesi a datblygu cynnyrch newydd. Bu i Quo-Tech greu’r ‘Tool Kit for the Management of Innovation’ a chyfres o fideos i’r rhaglen ‘Materials Matters’ i gyflwyno deunyddiau modern a dulliau gweithgynhyrchu i beirianwyr hŷn. Cynorthwyodd i sefydlu Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR yn 2016.
Yr Athro Sian Hope OBE
Prif Ymchwilydd – Prifysgol Bangor
Mae Sian Hope yn un o’r Prif Ymchwilwyr ar gyfer Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR. Mae hi wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor lle mae’n Gyfarwyddwr Gweithredol Arloesi ac yn Athro Cyfrifiadureg. Cafodd ei gradd gyntaf mewn Cyfrifiadureg yn 1982, ac ar ôl hyn gweithiodd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn ar systemau casglu data amser real ar gyfer taflegrau o’r tir i’r awyr. Ymunodd â Phrifysgol Bangor yn 1986 lle cafodd ail radd mewn Peirianneg Electronig, a chynorthwyo i sefydlu’r Adran Gyfrifiadureg lle’r oedd ei hymchwil yn canolbwyntio ar gynllunio systemau rheoli drwy gymorth cyfrifiadur ac integreiddio systemau mawr. Derbyniodd Sian deitl ‘Athro’ yn 2001, ac ar ôl hyn bu’n Ddirprwy Ddeon yr Ysgol Peirianneg Electronig a Chyfrifiadureg hyd at 2005 ac yn Ddirprwy Is-ganghellor o 2005-2010. Yn 2012, dyfarnwyd OBE iddi am ei gwasanaeth i gyfrifiadureg ac arloesi. Cynorthwyodd i sefydlu Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR yn 2016.
Dr. Mike Bluck
Prif Ymchwilydd – Imperial College
Mae Mike Bluck yn un o’r Prif Ymchwilwyr ar gyfer Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR. Y mae wedi’i leoli yn yr Imperial College, Llundain, lle mae’n uwch ddarlithydd yn grŵp Peirianneg Niwclear yr Adran Peirianneg Fecanyddol. Y mae hefyd yn Gyfarwyddwr y Centre for Nuclear Engineering yn yr Imperial College ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr y Rolls-Royce Nuclear University Technology Centre ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Nuclear Energy Doctoral Training Centre yr ICO (Imperial, Cambridge, Open University). Cafodd ei BSc(anrh) mewn Mathemateg (ffiseg fathemategol) o Brifysgol Kent, ac yna cwblhaodd thesis PhD yn yr Imperial College yn dwyn y teitl: ‘Integral equation methods for transient wave propagation’ gyda chymwysiadau i wasgariad acwstig, cyfrifiaduro RCS a chynllunio antenâu cyn dechrau ymwneud â pheirianneg niwclear. Mae ei ddiddordebau presennol yn cynnwys hydroleg thermol niwclear, niwtroneg a dulliau cyfrifiaduro cysylltiedig. Cynorthwyodd i sefydlu Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR yn 2016.
Dr. Debbie Jones
Rheolwr Project
Debbie Jones yw’r Rheolwr Project ar gyfer y Canolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR ac mae wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Bangor. Cafodd ei MChem mewn Cemeg yn 2012 o Brifysgol Manceinion lle arhosodd i astudio am PhD fel rhan o’r ‘Nuclear First DTC Scheme’. Cwblhaodd ei thesis PhD yn dwyn y teitl ‘Fluorescence Spectroscopy and Microscopy as Tools for Monitoring Redox Transformations of Uranium in Biological Systems’ yn 2016. Cwblhaodd secondiad 3 mis i labordai ymchwil Hitachi yn Japan lle archwiliodd rinweddau cemegol arsugnydd ar gyfer dŵr gwastraff Fukushima. Ymunodd â Chanolfan a Rhwydwaith Ymchwil BWR yn nechrau 2017.