Llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth rhwng yr Imperial College a Phrifysgol Bangor

Bangor (Prof. Paul Spencer) and Imperial (Prof. Jeff Magee) sign Memorandum of Understanding

Bangor (Yr Athro David Shepherd
Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil a Menter) and Imperial (Yr Athro Jeff Magee, Deon y Gyfadran Peirianneg).

Mae’r Imperial College, Llundain, a Phrifysgol Bangor wedi llofnodi memorandwm o ddealltwriaeth ar 17 Mehefin 2016 gyda’r nod o gael rhagor o gydweithio rhwng y ddwy brifysgol ym maes Peirianneg Niwclear.
O ganlyniad i’r cytundeb hwn, bydd yr Imperial yn darparu ei phrofiad maith yn y maes i helpu Bangor i ddatblygu rhaglen academaidd o ymchwil ac addysgu ym maes niwclear. Y mae hyn gyda’r disgwyl am yr adeilad niwclear newydd nid nepell o Fangor ar ffurf project ‘Wylfa Newydd’ Horizon Nuclear Power. Bydd hyn yn galluogi i Brifysgol Bangor ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel ar y cyd â chyngor niwclear hyddysg ac annibynnol wrth adnewyddu pŵer niwclear yn yr ardal.

Cynhaliwyd y llofnodi ar gampws South Kensington yr Imperial College ar 17 Mehefin gyda’r Athro David Shepherd
Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil a Menter) yn llofnodi ar ran Bangor a’r Athro Jeff Magee (Deon y Gyfadran Peirianneg) yn llofnodi ar ran yr Imperial College.