Cynhadledd Anghenion Ymchwil Adweithyddion Dŵr Berw Hydref 2016 🗓
Cynhaliwyd y gynhadledd gyntaf yn y DU ar “Anghenion Ymchwil Adweithyddion Dŵr Berw” ym Mangor rhwng 24-26 Hydref 2016. Trefnwyd gan Goleg Imperial a Phrifysgol Bangor ar y cyd â Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.
Daeth chwe deg o gynrychiolwyr o ddiwydiant, Prifysgolion a Llywodraeth y DU i’r gynhadledd gan ei gwneud yn llwyddiant mawr. Dechreuodd y gynhadledd trwy arwyddo memorandwm o ddealltwriaeth 3 ffordd rhwng Hitachi, Coleg Imperial a Phrifysgol Bangor cyn i’r rhaglen dechnegol ddechrau o ddifrif ar brynhawn 25 Hydref 2016 gyda chyflwyniad gan y Prif Beiriannydd Kumiaki Moriya o Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd. Cafwyd golwg gyffredinol ar yr anghenion ymchwil i’r genhedlaeth nesaf o adweithyddion dŵr berw. Rhoddodd gyflwyniad arall gan Hitachi-GE gyfle i’r gynulleidfa ddod yn gyfarwydd â gofynion dyluniadau craidd a thanwydd mewn adweithyddion BWR. Daeth y diwrnod i ben gyda sgwrs addysgiadol a roddwyd gan Horizon Nuclear Power ar eu project Wylfa Newydd a fwriedir ar gyfer Ynys Môn.
Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda chyfres o sgyrsiau ysbrydoledig yn amlinellu anghenion ymchwil ar gyfer creiddiau, hydroleg tanwydd a thermol perfformiad uwch sy’n cael eu datblygu gan GE-Hitachi.

Myfyrwyr a gafodd interniaeth tri mis gyda Hitachi yn ystod 2016 yn paratoi at fwynhau cinio’r gynhadledd. O’r chwith i’r dde: Matthew Jackson (Imperial), Dimitri Pletser (Imperial), Debbie Jones (Manceinion) ac Ilan Davies (Bangor).
Un o uchafbwyntiau’r ail ddiwrnod oedd y cyflwyniadau a roddwyd gan Ilan Davies, Debbie Jones a Matthew Jackson a fu ar interniaeth tri mis gyda Hitachi yn Siapan. Roedd brwdfrydedd y tri myfyriwr ynglŷn â’r gwaith a wnaethant a’r croeso Siapaneaidd a gawsant, yn amlwg.
Roedd prynhawn yr ail ddiwrnod ar ffurf gweithdy. Ffurfiwyd dau grŵp gan y rhai oedd yn bresennol i drafod anghenion ymchwil yn y prif feysydd hyn (cliciwch ar y dolenni i gael crynodeb o drafodaethau pob grŵp):
Daeth y diwrnod i ben gyda chinio’r gynhadledd. Roedd y diwrnod olaf yn rhoi manylion am gyfleoedd cyllido sydd ar gael ar gyfer ymchwil BWR yn y DU.
Agenda a chyflwyniadau
25 Hydref
- Croeso (Is-ganghellor Bangor, J. Hughes)
- Golwg gyffredinol ar anghenion ymchwil BWR (K. Moriya)
- Anghenion ymchwil ar gyfer dylunio craidd a thanwydd (T. Hino)
- Cyflwyniad am Wylfa Newydd (M. Sailsbury)
26 Hydref
- Anghenion ymchwil ar gyfer craidd a thanwydd perfformiad uwch (H. Soneda)
- Anghenion ymchwil ar gyfer hydroleg thermol (K. Nishida)
- Cyflwyniadau gan fyfyrwyr a dreuliodd dri mis yn Siapan yn ystod haf 2016:
- Disgrifio a threfnu’r sesiynau grŵp (N. Waterman)
Sesiynau gweithdai grŵp
- Grŵp 1:Sesiwn grŵp craidd a thanwydd
- Grŵp 2:Sesiwn grŵp hydroleg thermol
- Grwpiau trafod yn blaenoriaethu projectau ymchwil posibl
- Sesiwn lawn i’r grwpiau trafod yn cyflwyno manylion bras am brojectau blaenoriaeth
27 Hydref
- Cyflwyniad ar gyllid EPSRC (K.Bowman and L.Anderson)
- Cyllid KESS (S. Hope)
- Fforwm a Chanolfan Ymchwil BWR a Phrojectau Dichonoldeb (N. Waterman)